51ºÚÁÏ

Yasmin Zaher gyda'i nofel The Coin yn sefyll o flaen murlun lliwgar o wyneb Dylan Thomas.

Yasmin Zaher gyda'i nofel The Coin. 

Heddiw, cyhoeddwyd mai¡¯r awdur o Balesteina, Yasmin Zaher, yw enillydd y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd ar gyfer llenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - am ei nofel gyntaf, The Coin, gan nodi ugain mlynedd ers sefydlu¡¯r wobr fyd-eang hon.

Roedd y beirniaid yn unfrydol eleni mai The Coin a oedd yn tynnu arbrofiadau personol Zaheri ddadansoddi natur a gwareiddiad, harddwch a chyfiawnder, dosbarth a pherthyn mewn archwiliad bywiog o hunaniaeth a threftadaeth.

Dywedodd Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid, ar ran y panel: "Roedd cwtogi ein rhestr hir eithriadol o ddeuddeg nofel  i chwech llyfr anhygoel, ac yna  i un, yn anodd - ond roedd y panel beirniadu'n unfrydol yn eu penderfyniad i enwi Yasmin Zaher, gyda'i nofel gyntaf, yn enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2025. Mae Zaher yn cyflwyno cymhlethdod a dwyster drwy ei harddull ysgrifennu cryno a chain: Mae The Coin yn nofel heb ffiniau, sy'n mynd i'r afael ? thrawma a galar gyda rhannau beiddgar a barddonol o hynodrwydd a hiwmor. Mae'n llawn egni trydanol. Mae Yasmin Zaher yn enillydd eithriadol i nodi ugain mlynedd ers sefydlu¡¯r wobr hollbwysig hon".

Dyfarnwyd y wobr gwerth ?20,000 i Yasmin Zaher - gwobr sy'n dathlu dawn lenyddol eithriadol gan awduron 39 oed neu'n iau - mewn seremoni a gynhaliwyd yn Abertawe ddydd Iau 15 Mai. Mae The Coin, a gyhoeddwyd fel llyfr clawr papur ar 1 Mai 2025, wedi'i gyhoeddi gan Footnote Press, cyhoeddwr sy'n canolbwyntio ar genhadaeth ac sy'n ymrwymedig i ddarparu llwyfan ar gyfer straeon a safbwyntiau ar y cyrion.

Wrth dderbyn y wobr, meddai Yasmin Zaher: "Diolch i bawb sydd wedi ymwneud ?'r wobr arbennig hon ¨C mae'n anrhydedd mawr i mi. Heddiw ¨C 15 Mai ¨C mae Palesteiniaid yn coff¨¢u 77 mlynedd o'r Nakba parhaus, felly er bod hwn yn ddiwrnod hapus iawn i mi, mae'n ddiwrnod poenus i'm pobl. I bobl Gaza mae'r wobr hon. I'w hysbryd di-guro, yn enwedig i'r awduron a'r beirdd yno am eu diymhongarwch a'u hysbrydoliaeth difesur. Yn wyneb hil-laddiad a diymadferthedd maent yn parhau i ysgrifennu ac ymarfer eu hewyllys a'u dynoliaeth. Rwy'n ddiymhongar ac yn falch iawn."

Mae'r wobr wedi'i henwi ar ?l Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'r wobr yn cofio am Dylan Thomas er mwyn cefnogi awduron heddiw, meithrin doniau yfory, a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol yn ei holl ffurfiau gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dram?u.

Y teitlau eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr 2025 oedd Rapture's Road gan Se¨¢n Hewitt (Jonathan Cape, Vintage, Penguin Random House), Glorious Exploits gan Ferdia Lennon (Fig Tree, Penguin Random House), The Safekeep gan Yael van der Wouden (Viking, Penguin Random House UK), I Will Crash gan Rebecca Watson (Faber & Faber), a Moderate to Poor, Occasionally Good gan Eley Williams (4th Estate).

Beirniadwyd Gwobr 2025 gan Namita Gokhale, yr awdur arobryn o India sydd wedi cyhoeddi dros 25 o lyfrau ffuglen a ffeithiol (Paro: Dreams of Passion, Things to Leave Behind) yn ogystal ? bod yn gyd-gyfarwyddwr G?yl Lenyddiaeth Jaipur uchel ei bri. Y beirniaid eraill oedd: Yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru a Chyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe; Jan Carson, nofelydd ac awdur arobryn (The Fire Starters, The Raptures); Mary Jean Chan, awdur a enillodd Wobr Costa Book ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn y gorffennol (Fl¨¨che, Bright Fear); a Max Liu, beirniad llenyddol a chyfrannwr at The Financial Times, i a BBC Radio 4.

Mae Yasmin Zaher yn ymuno ? rhestr ryfeddol o awduron sydd wedi derbyn y wobr o fri hon, gan gynnwys Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Maggie Shipstead, Guy Gunaratne, a Kayo Chingonyi.

 

Rhannu'r stori